Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Jocelyn Davies Russell George Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Dirprwy Glerc) Sarita Marshall (Clerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Roedd Jocelyn Davies yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Deisebau newydd
2.1 P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru
2.2
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Datganodd William Powell fuddiant yn yr eitem hon, yn ogystal ag eitem 2.10, gan ei fod wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch i ailenwi rhan o’r A470 yn y ‘Royal Welsh Way’.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.3 P-04-410 Cofeb Barhaol i Weithwyr Cymru
2.4
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Datganodd William Powell a Joyce Watson fuddiant fel aelodau o Sefydliad Bevan.
Cytunodd y Pwyllgor i wneud darn o waith ar bwnc y ddeiseb hon.
2.5 P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro
2.6
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Grwpio’r ddeiseb gyda deisebau eraill ar yr un
pwnc;
Anfon yr ymateb a gafwyd eisoes ar y pwnc hwn at y deisebwyr er gwybodaeth;
Sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r ddeiseb ddiweddaraf hon.
2.7 P-04-412 Galw i Addoli ar y cyd gael ei Ddiddymu
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Cytunodd y Pwyllgor i anfon yr ymateb a gafwyd eisoes ar y pwnc hwn at y deisebydd er gwybodaeth, a chau’r ddeiseb.
2.8 P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon
2.9
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y bwrdd iechyd lleol ar y mater, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
2.10 P-04-414 Swyddi Cymreig
2.11
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, yn ogystal â’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.
2.12 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
2.13
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Grwpio’r ddeiseb hon gyda deisebau eraill ar yr un pwnc;
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r ddeiseb hon a gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei gamau nesaf.
2.14 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
2.15
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn ogystal ag Arriva Trains Wales i ofyn am eu barn.
2.16 P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
2.17
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, yn ogystal â’r awdurdod lleol a Tata Steel.
2.18 P-04-418 Enwi'r A470 yn 'Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndŵr'
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn am eu barn ar bwnc y ddeiseb.
2.19 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar bwnc y ddeiseb;
Aros am ymateb y Gweinidog i adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru ynghylch yr effaith ar dwristiaeth.
2.20 P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn am ei farn ar bwnc y ddeiseb.
2.21 P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru
2.22
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar bwnc y ddeiseb.
2.23 P-04-422 Ffracio
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar bwnc y ddeiseb.
2.24 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar agwedd gynllunio ar y ddeiseb;
Gwneud darn o waith i ganfod a fyddai’r penderfyniad cynllunio hwn, pe bai’n mynd rhagddo, yn enghraifft gyntaf o leoliad o’r fath ac a fyddai hyn yn gosod cynsail.
2.25 P-04-424 Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar y pwnc, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
Ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg i ofyn a gynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynnig.
2.26 P-04-425 Tîm Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar y pwnc.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu
3.2
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Anfon y wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau fel tystiolaeth i’w ystyried;
Ysgrifennu at CLlLC i ofyn a yw unrhyw awdurdod lleol yn ystyried gweithredu cynlluniau lleoedd sy’n cael eu rhannu ar ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt, gan amgáu’r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd.
3.3 P-04-391 Ffordd osgoi Llandeilo
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon ac, o ystyried cyngor y Gweinidog y gallai’r deisebydd wneud gwrthwynebiad ffurfiol i’r cynigion unwaith y bydd y dogfennau perthnasol wedi’u cyhoeddi, cytunodd i:
Wneud cais am fanylion o pryd mae’r dogfennau’n debygol o gael eu cyhoeddi er mwyn anfon y wybodaeth hon ymlaen at y deisebydd;
Cau’r ddeiseb.
3.4 P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser
3.5
3.6 P-04-371 Tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob plentyn hyd at 18 oed
3.7 P-04-382 Costau teithio i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus
3.8
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r deisebau hyn a chytunodd i ysgrifennu at ddeisebwyr P-04-361 i ofyn am ymateb ffurfiol i lythyr y Gweinidog.
3.9 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Anfon ymateb y Gweinidog ymlaen at y deisebydd a gofyn am fanylion/cofnodion o faterion diogelwch;
Ysgrifennu at y corff/cyrff priodol i ofyn a oes materion diogelwch ar ochr Lloegr o’r ffin;
Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo drafod y mater â’i swyddog cyfatebol yn Lloegr.
3.10 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
3.11
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ceredigion ynghylch y pryderon a amlinellwyd gan y Pwyllgor yn ei ohebiaeth flaenorol.
3.12 P-03-263 Rhestru Parc y Strade
3.13
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i:
Anfon yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebydd at y Gweinidog;
Sicrhau bod y Pwyllgor yn cael copi o adroddiad Cadw ar sut y gellir nodi treftadaeth chwaraeon ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol.
3.14 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo a fydd gweithgor Tasglu Adeiladau Hanesyddol yn cael ei sefydlu ac a fydd yn cynnwys eglwysi annibynnol, gan anfon copi at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
3.15 P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Sir Dinbych i ofyn yn ffurfiol ei fod yn ystyried ei strategaeth gyfathrebu â’r gymuned ar y mater hwn a’i fod yn ystyried cyfarfod â deisebwyr i drafod cynlluniau ar gyfer yr adeilad, lle mae’r rhain yn hysbys ac yn gallu eu gwneud yn gyhoeddus.
3.16 P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at Dai Cymunedol Cymru am farn ar yr achos hwn ac ar ddefnydd tai gwarchod yn gyffredinol yn y dyfodol;
Ymgysylltu ymhellach â’r Aelod Cynulliad lleol ar achos Kennard Court.
3.17 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr
O ystyried yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog mewn cysylltiad â’r ddeiseb hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.18 P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Ffermydd Gwynt a Llinellau Pŵer Foltedd Uchel
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i’w chau.
3.19 P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i rannu llythyr y deisebydd â’r Gweinidog.
3.20 P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol
3.21
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru i holi a yw wedi ystyried cais i’r ardal gael ei dynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac, os felly, beth oedd y penderfyniad.
3.22 P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Ofyn am fanylion am amseru’r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth arfaethedig i weithredu Rheoliad EC 1099-2009 er mwyn rhoi gwybod i’r deisebydd;
Sicrhau bod y Pwyllgor yn gwybod beth yw canlyniad yr ymgynghoriad.
3.23 P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Grwpio’r ddeiseb gyda deisebau eraill ar yr un pwnc;
Sicrhau bod y Gweinidog yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r ymgynghoriad ac unrhyw benderfyniadau sy’n codi ohono.
4. Papurau i'w nodi
4.1 P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG
4.2
4.3 P-04-401 Y Gymraeg yn ein Cynulliad ni
Nododd y Pwyllgor y papurau.
Diolchodd y Cadeirydd i Abigail Phillips am ei gwaith fel clerc y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf.